Fy enw i yw Lucy ac rwyf newydd gymhwyso fel optometrydd ac yn gweithio yng Nghymoedd De Cymru.
Cyn cymhwyso, astudiais optometreg am dair blynedd ym Mhrifysgol Caerdydd ac yna cwblheais fy mlwyddyn cyn-gofrestru mewn practis annibynnol prysur. Mae'r flwyddyn cyn-gofrestru yn cynnwys gweithio, dan oruchwyliaeth, yn ymarferol a sefyll sawl arholiad.
Cymhwysais ym mis Hydref 2021 ac rwyf wedi cwblhau hyfforddiant pellach ers hynny sy'n fy ngalluogi i gynnal gofal llygaid brys a phrofion ychwanegol ar gleifion, pe bai angen.
Mae’r pedwar mis cyntaf fel optometrydd cwbl gymwys wedi bod yn gromlin ddysgu serth iawn ond rwy’n mwynhau fy rôl newydd yn fawr.
Mae golwg yn bwysig i ni i gyd, ac yn aml nid tan i rywbeth fynd o’i le yn ein llygaid ni y byddwn ni’n sylweddoli cymaint rydyn ni’n dibynnu arnyn nhw! Rwy'n ei chael hi'n werth chweil bod fy swydd yn caniatáu i mi ddarparu gofal i gleifion sy'n cael problemau â'u llygaid.
Mae cymaint o gyfleoedd i gyflawni hyfforddiant pellach ac ennill cymwysterau ychwanegol mewn meysydd fel glawcoma, pediatreg a golwg gwan. Mae optometryddion hefyd bellach yn gallu cyflawni cymhwyster ychwanegol sy'n caniatáu iddynt ragnodi rhai meddyginiaethau a ragnodwyd yn flaenorol gan feddygon yn unig. Mae hyn felly yn cynyddu eu cwmpas ymarfer a nifer y cyflyrau y gellir eu trin yn ymarferol. Rwy'n gobeithio cyflawni nifer o'r cymwysterau ychwanegol hyn yn ystod fy ngyrfa.
Mae bod yn optometrydd yn yrfa ddiddorol a chyffrous iawn a byddwn yn ei hargymell yn fawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y maes meddygol. Mae’n swydd sy’n cario llawer o gyfrifoldeb ond hefyd llawer o wobr gan fod gennych y gallu i gael effaith gadarnhaol iawn ym mywydau eich claf.
I gael gwybod mwy am sut beth yw gweithio mewn optometreg edrychwch ar fy mlog ‘gweithio fel optometrydd’.