Fy enw i yw Lucy ac rwyf newydd gymhwyso fel optometrydd ac yn gweithio yng Nghymoedd De Cymru.
Mae fy swydd yn golygu gweld llawer o gleifion bob dydd ac ymateb i unrhyw broblemau a allai fod ganddynt. Gall cleifion ddod ag argyfyngau llygaid acíwt, problemau hirsefydlog neu ar gyfer profion golwg arferol/apwyntiadau lensys cyffwrdd ac mae pob apwyntiad yn wahanol iawn.
Os bydd claf gyda phroblem, efallai y byddaf yn gallu rheoli'r cyflwr yn ymarferol, neu, efallai y bydd angen i mi atgyfeirio at weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall. Weithiau mae hyn yn golygu anfon llythyr atgyfeirio safonol at y meddyg teulu, ond ar adegau eraill mae’n golygu ffonio’r adran anafiadau llygaid leol er mwyn i’r claf gael ei weld ar unwaith.
Gellir cywiro llawer o gleifion â golwg aneglur yn hawdd gyda phâr o sbectol. Felly, un o agweddau pwysicaf fy swydd yw cynnal plygiant, lle byddaf yn penderfynu oes gan glaf bresgripsiwn ac a oes angen sbectol arno.
Weithiau, yn ystod apwyntiad safonol, efallai y byddaf yn sylwi ar newidiadau yn llygaid fy nghlaf sy’n dangos bod ganddo gyflwr iechyd sylfaenol, fel pwysedd gwaed uchel, colesterol uchel a diabetes. Os byddaf yn sylwi ar unrhyw un o'r newidiadau hyn mae'n bwysig fy mod yn cysylltu â'u meddyg teulu a gofyn iddynt gynnal ymchwiliadau pellach. Felly, fel optometrydd rydych nid yn unig yn sgrinio pob claf am annormaleddau llygadol, ond mae gennych hefyd gyfrifoldeb i sgrinio am unrhyw bryderon iechyd cyffredinol hefyd.
Un o fy hoff bethau am y swydd yw'r amrywiaeth o wahanol gleifion rwy'n eu gweld bob dydd. Efallai y byddaf yn gweld dyn 95 oed am brawf golwg ac yna efallai y bydd fy nghlaf nesaf yn flwydd oed. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i mi addasu'r ffordd yr wyf yn cynnal yr archwiliad i wneud yn siŵr bod gennyf yr holl wybodaeth sydd ei angen arnaf i reoli unrhyw broblemau y gallent fod yn eu cael.
Weithiau, efallai y byddaf yn sylwi ar newidiadau yn llygaid claf sy’n gofyn am ymchwiliadau pellach. Yna byddaf yn dod â'r cleifion hyn yn ôl i mewn ar ddiwrnod arall i gynnal profion ychwanegol. Enghraifft o hyn fyddai defnyddio diferion i ymledu canwyll llygad claf sydd â chataractau, i wirio bod yr holl strwythurau eraill yn ei lygaid yn iach, cyn eu cyfeirio at yr ysbyty ar gyfer llawdriniaeth cataract.
Yn ogystal, os wyf yn pryderu bod gan blentyn bresgripsiwn mawr, gallaf hefyd gynnal math gwahanol o blygiant, gan ddefnyddio math arall o ddiferyn llygad, sy'n fy ngalluogi i wneud yn siŵr fy mod yn gwybod yn union pa gryfder sbectol sydd ei angen arno. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol i blant ifanc iawn nad ydynt yn gallu cyfathrebu ac ateb y cwestiynau clasurol, sef “a yw’n well gydag un neu ddau?” ayb.
Mae bod yn optometrydd yn yrfa ddiddorol a chyffrous iawn a byddwn yn ei hargymell yn fawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y maes meddygol.
I ddarganfod mwy am fy mhrofiad edrychwch ar fy mlog ‘gyrfaoedd mewn optometreg’.