Nyrsys yw'r grŵp o staff mwyaf yn y GIG ac maent yn gweithio gyda phobl o bob oed a chefndir ym mhob math o leoliad iechyd; o ddamweiniau ac achosion brys (A&E) i gartrefi cleifion.
Ar ôl hyfforddi yn un o'r pedwar maes nyrsio; oedolion, plant, anableddau dysgu neu iechyd meddwl, mae nifer o gyfleoedd i symud ymlaen ac arbenigo.
Felly, os ydych yn ofalgar, yn dosturiol ac yn meddu ar ymrwymiad i helpu pobl, byddwch yn dod o hyd i rôl sydd yn addas i chi.
Beth am edrych o gwmpas yr adeilad Nyrsio i ddysgu mwy am Nyrsio?
Health Education and Improvement Wales (HEIW)
Ty Dysgu,
Cefn Coed,
Nantgarw,
CF15 7QQ
03300 585002
nhswalescareers@wales.nhs.uk