Mae nyrsio iechyd meddwl yn rôl amrywiol iawn gyda arbenigeddau yn amrywio o weithio gyda phlant i'r genhedlaeth hŷn. Mae'r gwaith yn cynnwys helpu unigolion i wella ar ôl salwch neu ddod i delerau ag ef er mwyn byw bywydau cadarnhaol ac annibynnol.
Mae'n rhaid i nyrs iechyd meddwl fod yn gydymdeimladol ac yn anfeirniadol. Bydd angen i chi allu cydweithio â phobl, ennill eu hymddiriedaeth a bod yn fedrus wrth reoli sefyllfaoedd emosiynol.
Mae nyrsys iechyd meddwl yn gweithio gyda phobl sy'n profi ystod eang o anawsterau iechyd meddwl. I rai pobl, gall salwch meddwl gael ei sbarduno gan ddigwyddiad fel ysgariad, marwolaeth rhywun agos, genedigaeth, camddefnyddio alcohol a chyffuriau mewn amgylchiadau personol, gan gynnwys yn y gwaith.
Mae llawer o waith nyrs iechyd meddwl yn cynnwys hyrwyddo lles meddwl da, gweithio gyda phobl sy'n profi problemau iechyd meddwl difrifol a chefnogi adferiad i'r rhai sydd wedi profi anawsterau iechyd meddwl. Wedi'i hyfforddi am gyd-destun cyfreithiol y gwaith, gall nyrsys iechyd meddwl nodi a allai rhywun fod mewn perygl o niweidio ei hun neu rywun arall.
I gael gwybod mwy am nyrsio iechyd meddwl, edrychwch ar ein hadnoddau, gan gynnwys:
Dolenni defnyddiol: