Rydw i wedi bod yn gweithio fel Nyrs Ymgynghorol mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed Arbenigol - neu S-CAHMS, yn ei ffurf gryno - ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ers diwedd 2016. Mae'r ffordd y bu imi gyrraedd yma wedi cynnwys amrywiaeth go iawn o rolau a phrofiadau - rydw i wedi gweithio mewn rolau academaidd, clinigol a rheolaethol, a hoffwn rannu peth o'r hanes hwnnw gyda chi yn y blog hwn.
Fe wnes i hyfforddi yng Nghaerdydd yng nghanol y 1980au, lle bûm i’n gweithio fel Nyrs Staff am gwpl o flynyddoedd yn Ysbyty'r Eglwys Newydd. Yna fe symudais i Awstralia, gan weithio fel Nyrs Seiciatrig Cymunedol (CPN) mewn canolfan iechyd meddwl gymunedol arbenigol yn Sydney. Yno y bu imi hyfforddi mewn cwnsela a seicotherapi, a brofodd i fod yn ddechrau ar fy nhaith tuag at ddarpariaeth a hyfforddiant therapi seicolegol.
Ar ôl gadael Awstralia a dychwelyd i'r DU, penderfynais weithio yn Llundain lle ymgymerais â hyfforddiant arbenigol pellach. Dros y cyfnod hwnnw, dysgais am weithio gydag unigolion â Sgitsoffrenia, yn ogystal â'r effaith y gall ei chael ar deulu a/neu ofalwyr unigolyn. Rhoddodd datblygu'r wybodaeth arbenigol honno gyfle i mi wedyn redeg fy nghwrs fy hun, gan weithio gydag academyddion blaenllaw yn y maes, profiad gwerthfawr!
Rydw i wedi bod yn lwcus iawn i gael cyfleoedd i barhau i ddysgu drwy weithio mewn Nyrsio Iechyd Meddwl. Tra’r oeddwn i yn Llundain, astudiais Radd Meistr, gan hyfforddi mewn Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT), a dilyn cwrs TAR, cymhwyster addysgu. Yna symudais yn ôl i Gymru i weithio fel Seicotherapydd Gwybyddol Ymddygiadol, lle'r oedd modd imi ddatblygu hyfforddiant therapïau gyda phrifysgolion lleol.
Erbyn 2006 roeddwn yn byw yn Awstralia unwaith eto, y tro hwn yn gweithio fel Ymgynghorydd Nyrsio Clinigol, cyn ymgymryd â rôl Swyddog Nyrsio ar gyfer Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu yn Swyddfa'r Prif Swyddog Nyrsio yn Ne Cymru Newydd.
Ar ôl dod yn ôl i'r DU dechreuais weithio ym maes arbenigol seicosis pwl cyntaf, a helpu i ddatblygu a chyfarwyddo proses ymyrraeth gynnar a gafodd ei chyflwyno wedi hynny drwy Gymru gyfan. Ochr yn ochr â hynny, fe allais i gwblhau fy astudiaethau doethur ym Mhrifysgol Caerdydd, gan edrych ar therapïau penodol a sut y gellir eu rhoi ar waith.
Felly dyma fi heddiw, yn gweithio fel Nyrs Ymgynghorol o fewn S-CAMHS, sy'n un o'r swyddi mwyaf gwerthfawr a boddhaus i mi fod yn ddigon ffodus i'w chael erioed. Mae fy rôl yn golygu fy mod yn darparu arweinyddiaeth broffesiynol i gyd-Nyrsys yn y gwasanaeth, tra fy mod yn parhau i gynnal baich achosion bach o blant a phobl ifanc lle rydw i’n defnyddio fy hyfforddiant therapïau a seicotherapi yn rheolaidd. Rydw i hefyd yn cael cyflenwi hyfforddiant mewn therapïau seicolegol ar draws y gwasanaeth S-CAMHS, felly rydw i’n cael rhannu'r wybodaeth yr ydw i wedi'i meithrin drwy ystod fy ngyrfa.