Mae nyrs anabledd dysgu yn cefnogi lles a chynhwysiant cymdeithasol pobl gyda anableddau dysgu i gyrraedd eu potensial llawn, cyflawni ansawdd bywyd, a chael ei gwerthfawrogi mewn cymdeithas.
Mae nyrsys anabledd dysgu yn gofalu am bobl o bob oed sydd gydag anableddau dysgu ac yn gweithio mewn partneriaeth gyda unigolion, cefnogwyr, teuluoedd a gofalwyr i ddarparu gofal iechyd arbenigol.
Mae prif feysydd rôl fel nyrs anabledd dysgu yn cynnwys gwella neu gynnal iechyd corfforol a meddyliol unigolyn, lleihau rhwystrau iddynt fyw bywyd annibynnol, cefnogi'r person i fyw bywyd boddhaus, ac eirioli.
Mae nyrsys anabledd dysgu yn hyrwyddo annibyniaeth unigolyn, eu hawliau, eu dewisiadau, a'u cynhwysiant cymdeithasol yn y system gofal iechyd.
I gael rhagor o wybodaeth am nyrsio anabledd dysgu, edrychwch ar ein hadnoddau sy'n cynnwys: