Shwmae, Ellie ydw i!
Rydw i wastad wedi parchu nyrsio fel proffesiwn, ac ar ôl gweld fy mam sy’n nyrs a’r effaith mae hi’n ei chael ar ei chleifion fe wnaeth fy ysbrydoli i ddilyn yr yrfa.
Dewisais nyrsio plant oherwydd bod gan fy ffrind gorau afiechydon cronig lluosog, sawl gwaith byddwn yn mynd i'w gweld hi yn yr ysbyty a gweld sut roedden nhw'n gofalu amdani hi a'i theulu, wedi gwneud i mi sylweddoli mae hyn i’n rhywbeth rydw i eisiau ei wneud yn y dyfodol.
Beth dwi’n garu fwyaf am nyrsio plant yw faint o effaith y gallaf ei chael ar y plentyn hwnnw a'i deulu tra gallant fod yn mynd trwy'r amser gwaethaf. Gall ysbytai fod yn lle brawychus i unrhyw un, yn enwedig plentyn. Felly gall gwneud y profiad hwnnw ychydig yn llai brawychus iddynt wneud gwahaniaeth mawr.
Mae paratoi yn allweddol! Byddwch yn drefnus, paratowch ar gyfer llawer o waith yn y brifysgol ac allan ar leoliad, ond cofiwch fwynhau! Mae'r darlithwyr mor gefnogol a byddwch yn gwneud ffrindiau oes ar y ffordd.