CAREERSVILLE

Myfyriwr Nyrsio Plant

Ria - Myfyriwr Nyrsio Plant

Haia, Ria dw'i!

Ria

Ria

Beth wnaeth i chi fod eisiau bod yn nyrs plant?

Yn gyntaf oll, ro’n i wastad wrth fy modd yn gweithio ym maes gofal iechyd ac yn mwynhau gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl. Yn sgil hyn daeth yn amlwg imi fod nyrsio’n gweddu i mi! Wrth ystyried pa faes nyrsio i’w ganlyn, bu imi ddewis nyrsio plant gan fy mod wrth fy modd yn gweithio gyda phlant o bob cyfnod mewn bywyd a chyda’u teuluoedd.

Ro’n i eisiau gwneud gwahaniaeth i brofiadau plant a'u teuluoedd yn ystod y cyfnodau mwyaf pryderus yn yr ysbyty, a pheri iddynt fod yn brofiadau mor gadarnhaol â phosibl.

Pam wnaethoch chi ddewis nyrsio plant?

Bu imi ddewis nyrsio plant oherwydd roeddwn i eisiau gwneud gwahaniaeth i blant a phobl ifanc yn eu bywydau ac roeddwn i eisiau cofleidio’r dull teulu-ganolog. Ro’n i’n dotio at y syniad o ofalu am unigolion, o’r newydd-anedig i rai yn eu harddegau. Ro’n i hefyd yn awyddus i ddysgu mwy am yr anghenion iechyd penodol iawn sydd gan blant a sut mae plant yn datblygu trwy gydol eu cyfnodau mewn bywyd. Hefyd, bu imi ddewis nyrsio i gyfuno fy angerdd dros wasanaethau plant, meddygaeth a hybu iechyd o fewn un rôl werthfawr

Beth ydych chi'n fwyaf hoff ohono o ran bod yn nyrs plant?

Rydw i wrth fy modd yn gallu gwneud gwahaniaeth i’r plant a’u teuluoedd, pa bynnag brofiadau y bônt yn eu hwynebu. Rydw i’n mwynhau dysgu a meithrin gwybodaeth newydd ynghylch sut mae angen eu nyrsio mewn ffordd dosturiol trwy gydol eu cyfnodau mewn bywyd. Rydw i’n hoff o’r amrywiol fathau o unigolion rydw i’n gofalu amdanyn nhw. Rydw i’n hoff o ddysgu ffyrdd gwahanol o gyfathrebu ac ymgorffori chwarae yn y driniaeth i roi profiad mor gadarnhaol ag y gallaf i’r cleifion.

Yn bennaf oll, rydw i’n mwynhau bod yn rhan o ofal unigolion a dathlu eu hadferiad a’u cynnydd. Gweld yr olwg ar wyneb plentyn pan fo’n dechrau teimlo'n well yw uchafbwynt nyrsio plant.

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i'r rhai sydd eisiau astudio ym maes nyrsio plant?

Mwynhewch bob munud! Byddwch yn dysgu cymaint trwy gydol eich astudiaethau ym maes nyrsio plant, trwy gyfrwng y darlithoedd a’r lleoliadau, yn sgil y cyfleoedd a ddaw i’ch rhan. Cofiwch ddod o hyd i'ch ffordd bersonol eich hun o gynnal eich cymhelliad a chadw ar ben popeth ond yn bwysicaf oll, joiwch.

Trwy waith caled daw llwyddiant a chyflawniad!