Helo, fy enw i yw Sian, ac rwy'n Nyrs Proffesiynol Pediatrig a Datblygu Ymarfer.
Yn fy rôl rwy’n arwain tîm o addysgwyr ymarfer ac addysgwyr clinigol ar gyfer nyrsys pediatrig o bob gradd a chymhwyster. Rwy’n gyfrifol am addysg, hyfforddiant a datblygiad ymarfer y staff yn fy ngofal, tra’n hyrwyddo amgylchedd dysgu effeithiol yn y gweithle.
Mae fy rôl yn cynnwys trefnu, cynllunio ac addysgu ar addysg, gwybodaeth a sgiliau clinigol gorfodol a phediatrig penodol. Mae hefyd yn cynnwys cefnogi staff i wella arfer yn yr heriau o ddydd i ddydd o weithio fel nyrs
Rwy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae hon yn rôl bwrdd iechyd cyfan sy’n cwmpasu timau pediatrig mewn lleoliadau acíwt a chleifion allanol. mae’n cynnwys cysylltu â byrddau iechyd eraill ledled Cymru.
Roeddwn yn flaenorol yn Brif Nyrs yn rhedeg yr unedau gofal dydd pediatrig ond cyn hynny rwyf wedi gweithio fel nyrs staff a chwaer iau mewn llawer o wahanol fyrddau iechyd ledled y DU. Dechreuais fy ngyrfa fel myfyriwr nyrsio yn gwneud hyfforddiant nyrsio cyffredinol a gweithiais mewn lleoliadau Damweiniau ac Achosion Brys, wardiau meddygol acíwt a llawfeddygol i oedolion.
Rwyf hefyd wedi gweithio mewn gofal dwys pediatrig, wardiau cyffredinol pediatrig, adrannau damweiniau ac achosion brys pediatrig ac unedau asesu acíwt pediatrig. Gwneuthum hefyd ychydig o waith fel Purser meddygol ar y llongau uchel a berthynai i'r Jubilee sailing Trust.
Rwyf wedi astudio ar lefel diploma ac israddedig, ac rwyf bellach yn astudio fel lefel meistr gan eich bod bob amser yn dysgu pethau newydd.