CAREERSVILLE

Diwrnod Ym Mywyd Arbenigwr Ymddygiad Cynorthwyol

Hayley - Diwrnod Ym Mywyd Arbenigwr Ymddygiad Cynorthwyol

Fy enw i yw Hayley ac rwy’n gweithio i Wynebu’r Her (Facing the Challenge), tîm amlddisgyblaethol o arbenigwyr ymddygiad, arbenigwyr ymddygiad cynorthwyol, nyrsys anabledd dysgu cymunedol a seicolegydd clinigol. Rydym yn rhan o'r gwasanaeth Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu ym Mae Abertawe ac rydym wedi ein lleoli yn Ysbyty Cimla.

Hayley

Hayley

Gyda phwy ydych chi'n gweithio?

Rydym yn gweithio gyda phlant 5-18 oed sydd ag anabledd dysgu wedi’i ddiagnosio, a’u teuluoedd. Rhaid i'r plant fod gydag ymddygiad heriol er mwyn bodloni'r meini prawf ar gyfer cyfeirio at ein gwasanaeth; ymddygiadau sy’n peri risg naill ai i’r plentyn neu’r rhai o’i gwmpas ac sy’n gymhleth eu natur. Mae wynebu’r her yn gweithio tuag at fodel o Gymorth Ymddygiad Cadarnhaol, sy’n fframwaith defnyddiol i helpu i ddeall ymddygiad ac sy’n anelu at wella ansawdd bywyd y plentyn a’r rhai sy’n darparu gofal iddo. Mae gennym ymagwedd systemig at newid ymddygiad ac felly rydym yn gweithio'n agos gydag addysg, gwasanaethau seibiant, gwasanaethau cymdeithasol ac unrhyw amgylchedd neu leoliad arall y mae'r plant yn eu mynychu.

Sut olwg sydd ar eich diwrnod arferol?

Nid oes 'diwrnod arferol' i mi yn fy rôl fel arbenigwr ymddygiad cynorthwyol, sef un o'r pethau rwy'n ei hoffi am y swydd. Mae dyletswyddau nodweddiadol yn cynnwys cynorthwyo’r arbenigwyr ymddygiad i gynnal asesiadau cychwynnol, cynnal arsylwadau mewn ystafelloedd dosbarth ac yn ystod y cyfnod seibiant, mynychu cyfarfodydd amlddisgyblaethol a gynhelir gan y gwasanaethau cymdeithasol ac adolygiadau ysgol a gweithio’n uniongyrchol gyda theuluoedd, darparu seico-addysg ac ymyrraeth. Gall fod yn anodd newid ymddygiad plentyn ag anabledd dysgu felly rydym yn gweithio gyda’r system o amgylch y plentyn ac yn gwneud newidiadau amgylcheddol i leihau’r tebygolrwydd o ymddygiad heriol. Mae rhan o fy rôl hefyd yn cynnwys ysgrifennu adroddiadau a nodiadau achos, dadansoddi data, creu cymhorthion cyfathrebu gweledol a chyfeirio at wasanaethau eraill, megis Therapi Galwedigaethol.

A fyddech chi'n argymell eich rôl?

Byddwn yn argymell fy rôl i unrhyw un sydd ag angerdd am weithio gyda phlant, ymddygiad heriol ac anableddau dysgu. Mae'n hynod o werth chweil gweld teuluoedd sydd mewn argyfwng, yn dod allan yr ochr arall gyda dealltwriaeth dda o ymddygiad eu plentyn ac ansawdd bywyd gwell.

Mae'r plant rydyn ni'n gweithio gyda nhw yn anhygoel ac yn unigryw yn eu cryfderau ac mae'n anrhydedd gweithio gyda nhw o ddydd i ddydd.