CAREERSVILLE

Myfyriwr Nyrsio Plant

Sarah - Myfyriwr Nyrsio Plant

Helo Sarah ydwi.

Sarah

Sarah

Fe ges i’r awch i fod Nyrs Plant ar ôl gweithio i'r gwasanaeth 111 fel trinydd galwadau am nifer o flynyddoedd. Ro’n i’n derbyn galwadau gan bob aelod o'r boblogaeth ond ro’n i wastad yn mwynhau helpu rhieni a oedd yn poeni am eu plant, p'un a oedden nhw ychydig ddyddiau oed neu’n bobl ifanc yn eu harddegau.

Mae’n hynod braf gallu rhoi cynhaliaeth a chysur i rieni yn ystod cyfnod brawychus iawn. Mae hyd yn oed y rhieni mwyaf hyderus a chymwys angen cynhaliaeth a chysur pan fo’u plant yn sâl.

Yr hyn rydw i'n fwyaf hoff ohono o ran Nyrsio Plant yw pan fo plentyn sâl yn cyrraedd y ward, yn amharod i ryngweithio a chyfathrebu i ddechrau. Wedi cael y driniaeth a’r gorffwys angenrheidiol, mae’n trawsnewid yn blentyn chwareus a hapus gan adfywio’n rhyfeddol o gyflym. Mae'r rhyddhad ar wynebau'r rhieni’n amhrisiadwy ac maen nhw’n aml yn gadael yn llon ond wedi blino'n lân—gyda phlentyn sy'n barod i chwarae a gwrthod cysgu!

Fy nghyngor i unrhyw un sydd am astudio nyrsio plant yw bod yn drefnus a chynllunio ymlaen llaw. Wynebwch bob lleoliad gydag agwedd gadarnhaol, parod ac awyddus i ddysgu, hyd yn oed os nad ydy’r lleoliad nesaf yn apelio atoch. Mae'n debygol mai dyma'r lleoliad y byddwch chi'n elwa fwyaf ohono.

Y cam cyntaf ar y ward Plant yw’r trosglwyddiad, yn cynnwys dysgu popeth am y cleifion sydd ar y ward. Wedi hyn, rydych chi'n helpu i gynnal yr holl wiriadau diogelwch o amgylch y ward. Rydych chi'n cwrdd â'r cleifion sydd dan eich gofal y diwrnod hwnnw. Yna, rydych chi’n eu cynorthwyo ac yn gofalu amdanyn nhw trwy gydol y dydd, gan ddarparu triniaethau neu feddyginiaethau’n unol â'u cynllun gofal. Rydych chi'n cymryd rhan yn y rowndiau ward lle bydd y meddygon yn gwirio ac yn addasu'r cynlluniau gofal.

Mae'r radd hon yn un heriol, ond bydd yn eich nerthu i fod yn gofrestrydd gwydn a chrwn. Mae angen i chi fod yn barod i wneud y gwaith caled fel oedolyn ar daith ddysgu.

Mae Nyrsio Plant ar y cyfan yn waith caled a phrysur, ond mae hi’n yrfa bleserus, gyffrous a boddhaus iawn.