CAREERSVILLE

Uwch-ddarlithydd Cymunedol Ym Maes Nyrsio Cymunedol A Phlant Prifysgol De Cymru

Michelle Panniers - Uwch-ddarlithydd Cymunedol Ym Maes Nyrsio Cymunedol A Phlant Prifysgol De Cymru

Michelle ydw i ac rydw i wedi gweithio fel Nyrs Plant angerddol ers dros 30 mlynedd.

Michelle Panniers

Michelle Panniers

Wedi fy lleoli yn yr amgylchedd ysbyty acíwt i ddechrau, fe ges i yna’r fraint o gael gofalu am blant ag anghenion iechyd cymhleth yn y gymuned.

Yn fwy diweddar, roedd fy ngyrfa’n canolbwyntio ar blant iach. Roeddwn yn gweithio'n agos gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd fel Nyrs Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol. Hanfod y rôl oedd hyrwyddo eu hiechyd a'u lles i’w helpu i ddod yn iachach fel oedolion. Arweiniodd y cyfle hwn at fy rôl bresennol fel Uwch-ddarlithydd ym maes Nyrsio Cymunedol a Phlant.

Mae'r amrywiaeth o opsiynau gyrfa’n enfawr; fodd bynnag, mae pawb yn ymdrechu i gadw lles y plant wrth wraidd popeth a wnânt.

Does dim dwywaith bod llawer wedi newid dros y blynyddoedd, ond rydw i wedi gwirioneddol fwynhau pob swydd imi ei chael erioed. Mae Nyrsio Plant yn caniatáu ichi fod yn eiriolwr dros blant a choleddu gofal sy'n canolbwyntio ar y teulu, gan gydweithio â theuluoedd i'w helpu i gyflawni eu nodau.

Mae Nyrsys Plant yn gweithio'n galed i nyrsio plant yn effeithiol neu, ar ben arall y raddfa, i ofalu am blant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu bywydau a darparu gwell ansawdd bywyd neu ddiwedd oes iddynt.

Pe bawn i’n gorfod rhoi gair o gyngor i rywun sy'n ystyried gyrfa ym maes Nyrsio Plant, fe ddywedwn i...

Peidiwch byth â thanbrisio'r gwahaniaeth rydych chi'n ei wneud.