CAREERSVILLE

Uwch-ymarferydd Nyrsio Newydd-enedigol

Heidi - Uwch-ymarferydd Nyrsio Newydd-enedigol

Helo fy enw i yw Heidi.

Heidi

Heidi

Uwch-ymarferydd nyrsio newydd-enedigol yw teitl fy rôl bresennol. Mae'r rôl hon yn rhoi'r gorau i mi o ddau fyd.

Rydw i’n gallu gweithio'n glinigol, gan arfer sgiliau gweithdrefnol a llunio penderfyniadau clinigol fel y byddai meddyg. Mae modd imi wneud hyn law yn llaw â chyfrannu at addysg staff, astudiaethau ymchwil yn ogystal â chynnal rolau arwain a rheoli. Mae'n rôl hynod amrywiol ac mae'n anrhydedd cael ei chyflawni.

Bu imi gymhwyso fel Nyrs Plant (BN Anrh.) cyn ennill cymwysterau arbenigol mewn gofal arbennig a dibyniaeth fawr a gofal dwys yn ogystal â Thystysgrif Addysg i Raddedigion. Bu i’r cymwysterau ychwanegol hyn fy ngalluogi i gael swydd fel Prif Nyrs Iau ac yna fel Prif Nyrs Uwch ac Addysgwr Ymarfer. Dyma rôl hanfodol sy'n gyfrifol am addysg a hyfforddiant yr holl nyrsys meithrin a’r staff nyrsio yn ogystal â goruchwylio ansawdd y gofal y mae teuluoedd yn ei gael gan nyrsys.

Gall nyrsio’ch arwain i ble bynnag y mynnwch. Rydw i wedi gweithio yng Ngogledd Cymru, De Cymru, Lloegr ac Awstralia.

Mae gen i yrfa anhygoel ac mae bob sifft yn wirioneddol werth chweil. Gall sifftiau fod yn hir a’r oriau’n anghymdeithasol ond, mewn difrif, sawl rôl arall sy'n caniatáu ichi wneud gwahaniaeth dyddiol i fywydau pobl?