Rydw i’n ymfalchïo yn fy rôl fel Nyrs Plant.
Autumn ydw i, nyrs plant gofrestredig a darlithydd Nyrsio Plant yn Mhrifysgol De Cymru.
Dechreuais fy hyfforddiant fel nyrs yn 2011 gan gymhwyso fel Nyrs Plant yn 2014.
Wrth ymroi i’r hyfforddiant fel Nyrs Plant, amlygwyd imi amlochredd gyrfa ym maes Nyrsio Plant a sut y gellir agor sawl drws wedi ichi gymhwyso.
Rydw i wedi gweithio mewn Uned Gofal Dwys Bediatrig ranbarthol. Yno, roeddwn yn gyfrifol am ddarparu gofal dwys i fabanod newydd-anedig a phlant hyd at 16 oed. Roedd y gofal yn rhychwantu ystod o arbenigeddau, gan gynnwys gofal gardiaidd, anadlol, niwrolegol, llawfeddygol, trawma ac orthopedeg.
Y cam nesaf yn fy ngyrfa oedd arbenigo fel Nyrs Gofal Dwys Newydd-enedigol. Mae’r gwaith hwn yn ymwneud â darparu gofal arbenigol i fabanod wedi’u geni’n rhy gynnar ac yn rhy wael. Yn eu plith mae babanod hynod gynamserol, wedi 23 wythnos o feichiogrwydd, a babanod cyfnod llawn sydd angen gofal llawfeddygol ar enedigaeth. Yn rhinwedd y ddwy rôl roedd yn fraint cael gofalu am y plant a’u teuluoedd, gan ddarparu gofal a chymorth ar yr adegau anoddaf.
Mae fy ngyrfa’n ddiweddar yn rhychwantu addysg nyrsio, lle rydw i bellach yn addysgu Nyrsys Plant y dyfodol. Mae’n fraint cael croesawu nyrsys plant y dyfodol i Addysg Uwch, gan roi’r set sgiliau a’r wybodaeth iddynt ofalu am blant a phobl ifanc y dyfodol.
Os ydych chi’n cwestiynu p’un a yw gyrfa ym maes Nyrsio Plant yn addas i chi, rydw i’n eich cynghori i fynd amdani. Mae'n feichus yn emosiynol ac yn gorfforol, ond yr un mor foddhaus.