Helo, Matthew dw i, ac ar hyn o bryd yn gweithio fel therapydd galwedigaethol mewn Tîm Allgymorth Grymusol sy'n rhan o Dîm iechyd meddwl cymunedol.
Yn y Tîm Allgymorth Grymusol, rwy'n gweithio gydag amrywiaeth o gleifion sydd â diagnosis iechyd meddwl. Sefydlwyd y Tîm Allgymorth Grymusol i weithio gyda phobl sydd â salwch meddwl seicotig difrifol fel Sgitsoffrenia ac mae angen cymorth proffesiynol mwy rheolaidd arnynt na gwasanaeth iechyd meddwl prif ffrwd.
Yn y Tîm Allgymorth Grymusol, rydym fel arfer yn ymweld â phobl yn eu cartrefi eu hunain neu ar wardiau iechyd meddwl os ydynt yn dderbyniedig.
Rwy'n gweithio gydag amrywiaeth o wahanol weithwyr proffesiynol, Gweithwyr Cymdeithasol, Nyrsys Iechyd Meddwl, Seicolegwyr, Seiciatryddion, Ysgrifenyddion a Derbynyddion.
Ar ddiwrnod gwaith arferol, rwy'n dechrau am 9.00am ac yn gorffen am 5.00pm. Pan fyddaf yn cyrraedd y gwaith, byddaf yn siarad â staff o fewn y tîm ac rydym yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'n gilydd am yr hyn a ddigwyddodd y diwrnod blaenorol ac rydym yn cynllunio'r hyn y mae angen ei wneud ar gyfer y diwrnod i ddod, a'r cleifion yr ydym yn bwriadu eu gweld. Efallai fod gennyf gleifion rwyf wedi trefnu i gwblhau asesiad, neu i ddarparu ymyriad gyda nhw.
Mae llawer o wahanol fathau o asesiadau y gallaf eu defnyddio gyda'r cleifion yn dibynnu ar yr hyn y maent yn ei chael yn anodd. Un enghraifft fyddai asesiad cegin/coginio. Bydd asesiad cegin yn dangos i mi a yw person yn gallu defnyddio offer yn briodol ac yn ddiogel, yn gallu darllen a dilyn cyfarwyddiadau ac yn gallu coginio'r bwyd yn ddiogel.
Byddaf wedyn yn defnyddio'r asesiad i gynllunio ymyriad. Un enghraifft o ymyriad efallai yw mynd ar fws gyda chlaf, gan nad ydynt wedi gwneud hynny o'r blaen neu gan eu bod yn
poeni am fynd ar y bws. Efallai y byddaf yn cwblhau ymyriad o'r enw amlygiad graddedig sy'n meithrin hyder a sgiliau person i allu mynd ar fws ar eu pen eu hunain.
Rwy'n mwynhau fy swydd wrth i mi weithio gydag ystod eang o bobl sydd ag anghenion gwahanol ac mae'n werth chweil gwneud gwahaniaeth i'w bywydau. Byddwn yn argymell gyrfa mewn Therapi Galwedigaethol gan ei bod yn werth chweil cydweithio â chlaf sy'n adeiladu perthynas therapiwtig a gweld claf yn cyrraedd ei nodau.
Mae llawer o feysydd therapi galwedigaethol eraill y gallwch weithio ynddynt yn dibynnu ar ble mae eich diddordeb. Dyma rai enghreifftiau:
Byddwn yn argymell gyrfa mewn Therapi Galwedigaethol gan ei fod yn werth chweil gweithio gyda chlaf i feithrin perthynas therapiwtig a gweld claf yn cyrraedd ei nodau.