CAREERSVILLE

Nyrs Mewn Cartref Nyrsio

Mihnes - Nyrs Cartref Nyrsio

Helo fy enw i yw Mihnes ac rwy'n nyrs mewn Cartref Nyrsio.
Mewn cartref nyrsio, mae nyrsys yn rhan hanfodol o'r tîm yn ogystal â gofalu am iechyd corfforol yr unigolion, maent yn hybu annibyniaeth a lles y bobl y maent yn gofalu amdanynt.

AdobeStock 84466419

AdobeStock 84466419

Beth mae Nyrs sy'n gweithio mewn cartref nyrsio yn ei wneud?

Mae nyrs yn cadw mewn cysylltiad â Gweithwyr Iechyd Proffesiynol (e.e Dietegwyr, Meddyg Teulu ac ati).

Mae Nyrs yn ysgrifennu ac yn adolygu Cynlluniau Gofal ar gyfer y preswylwyr, yn monitro'r preswylwyr yn ddyddiol (cymeriant dietegol, symudiad y coluddyn),

Mae nyrs mewn cartref nyrsio yn rhoi meddyginiaethau, yn newid gorchuddion, yn gwneud atgyfeiriadau, yn cydlynu'r tîm yn ogystal â dyletswyddau cyffredinol yn ymwneud â diogelu a hybu iechyd ac annibyniaeth.

Mae nyrs mewn cartref nyrsio yn gwneud llawer o hyfforddiant, yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau’r Bwrdd Iechyd a’r Cartref Gofal.

Pa sgiliau sydd eu hangen arnaf i fod yn Nyrs dda?

  • Empathi
  • Yn agored i heriau a newidiadau newydd, ac i feirniadaeth adeiladol
  • Sgiliau clinigol
  • Cadarn ond teg
  • Sgiliau cymdeithasol da

Sut mae dod yn Nyrs?

Mae graddau nyrsio fel arfer yn cymryd tair blynedd i'w cwblhau. Mae nifer o gyrsiau gradd ran-amser ar gyfer pobl a gyflogir fel Gweithwyr Cynnal Gofal Iechyd yn y GIG.

Gradd Nyrsio Llawn Amser: Y llwybr mynediad i nyrsio yng Nghymru yw trwy radd.

Mae bwrsariaeth ar gael i helpu i dalu ffioedd dysgu. Mae Aberystwyth, Bangor, PDC, Caerdydd, Glyndŵr ac Abertawe i gyd yn cynnig cyrsiau 3-4 blynedd.

Mae gofynion mynediad yn amrywio, edrychwch ar wefan y Brifysgol.