Bydd tua 1 o bob 4 o bobl yn y DU yn profi problem iechyd meddwl bob blwyddyn.
Efallai y bydd pobl sydd angen cymorth a chefnogaeth gyda'u hiechyd meddwl yn gweld ystod eang o weithwyr proffesiynol gwahanol. Gallai'r gofal hwn ddigwydd ar-lein neu dros y ffôn, drwy ymweliadau cartref, neu drwy ymweld ag adeilad ar gyfer apwyntiadau. Gallai gynnwys therapïau siarad, hunangymorth neu feddyginiaeth a bydd cynllun unigol yn cael ei sefydlu ar gyfer pob person.
Gall gweithio mewn rôl iechyd meddwl roi'r cyfle i gefnogi pobl i ffynnu, gan wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau unigolion, teuluoedd a'r gymuned gyfan. Mae'n ffordd wych o wneud gwahaniaeth sy'n cyfrif.
Gall proffesiynau iechyd meddwl gynnwys:
• Nyrsys
• Gweithwyr Cymdeithasol
• Seiciatryddion (Meddygon)
• Seicolegwyr
• Therapyddion Celf (gan gynnwys cerddoriaeth, dawns a drama)
• Therapyddion Galwedigaethol
• Ffisiotherapyddion
• Cwnselwyr a Therapyddion Seicolegol
Dolenni defnyddiol:
Ewch i adeilad Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (llawr Therapi Galwedigaethol) a'r adeilad Nyrsio (llawr Iechyd Meddwl) i gael rhagor o wybodaeth am y proffesiynau hyn.