Gadewais yr ysgol a gwneud prentisiaeth peirianneg, rhywbeth a fwynheais yn fawr ond i mi roedd rhywbeth ar goll. Penderfynais newid gyrfa yn gyntaf trwy fynychu cwrs 'Mynediad i Wyddoniaeth' a oedd yn caniatáu i mi ennill cymwysterau i allu gwneud cais i astudio dieteg tra hefyd yn gweithio ochr yn ochr â'm hastudiaethau.
•Pa gymwysterau oedd eu hangen arnoch chi?
I ddod yn Ddietegydd, rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC). I gyflawni hyn, mae angen i chi astudio ar gyfer gradd baglor neu ôl-raddedig mewn dieteteg.
•Pam ydych chi'n mwynhau eich rôl?
Mae rôl y Dietegydd yn amrywiol iawn. Rwy’n ddigon ffodus i weithio ar brosiectau sy’n caniatáu imi ddatblygu’r rôl honno. Rwyf wedi gweithio ym maes dieteteg iechyd meddwl am y 7 mlynedd diwethaf. Rwyf wedi bod yn ffodus i weithio gyda rhai aelodau tîm anhygoel gan gynnwys Seicolegwyr, Nyrsys, a therapyddion eraill. Mae gan y bobl yr ydym wedi helpu i'w cefnogi gefndiroedd amrywiol gan gynnwys Awtistiaeth, anhwylderau bwyta a chyflyrau eraill sy'n gysylltiedig â'u hiechyd meddwl. Rwy'n mwynhau fy rôl yn fawr oherwydd mae pob person rwy'n gweithio gyda nhw yn unigryw ac rwy'n dysgu cymaint ganddyn nhw ac yn gobeithio eu bod nhw’n dysgu gennyf i. Mae’n deimlad o foddhad mawr i gefnogi pobl i wneud newidiadau yn eu bywydau a fydd yn eu helpu i symud i’r cyfeiriad y maent eisiau mynd iddo.
•Pa sgiliau allweddol sydd eu hangen i wneud eich rôl yn dda?
Mae sgiliau gwrando o safon i ddeall anghenion y person yn allweddol, nid ydym ond yn gwrando er mwyn ymateb. Mae cymryd yr amser i weld y person y tu ôl i'r cyflwr a deall yn iawn beth sy'n ddefnyddiol iddyn nhw a thrafod ffordd ymlaen yn bwysig. Fel arfer, rydych chi'n arwain y person i ddod o hyd i'r atebion ei hun trwy edrych ar ei gryfderau ei hun.
•Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau neu gyngor am y rôl – pam ddylech chi ei dewis?
Os ydych chi eisiau gyrfa amrywiol a gwerth chweil a bod gennych ddiddordeb mewn bwyd a gweithio gyda phobl i wneud gwahaniaeth, yna byddwn yn argymell gyrfa mewn dieteteg yn fawr.